SL(5)390 - Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Diwygio) (Cymru) 2019

Cefndir a Diben

Mae’r Gorchymyn hwn yn cymhwyso o ran Cymru ddarpariaethau penodol sydd wedi eu gwneud ac sy’n diwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) 2005 (O.S. 2005/2517) (“Gorchymyn 2005”) o ran yr Alban a Lloegr.

Rhoddodd y Gorchmynion hyn ddarpariaethau penodol ar waith o ran yr Alban a Lloegr, gan gynnwys Penderfyniad y Comisiwn 2002/757/EC a Phenderfyniadau Gweithredu’r Comisiwn 2014/690/EU, 2015/789/EU, 2015/893/EU, 2012/535/EU, 2015/2416/EU a 2017/204 a Phenderfyniad Rhif 1/2015 y Cyd-bwyllgor ar Amaethyddiaeth yn ymwneud â’r cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Chydffederasiwn y Swistir ynghylch masnachu cynhyrchion amaethyddol (2017/169/EU).

Yn ychwanegol, mae’n cyflwyno darpariaeth newydd i ganiatáu i wybodaeth gael ei datgelu gan Gyllid a Thollau EM (CThEM) i Weinidogion Cymru, a hynny at ddibenion Gorchymyn 2005.

Mae’n rhoi ar waith y mesurau rheoli penodol ym Mhenderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2017/2352 er mwyn atal y pla Xylella fastidiosa rhag cael ei gyflwyno.

Ar ben hynny mae’r Gorchymyn hwn yn rhoi mesurau ar waith sy’n cryfhau gofynion ynglŷn â mewnforio a symud coed derw, er mwyn lleihau’r risg y ceir rhagor o Thaumetopoea processionea (gwyfyn ymdeithiwr y derw (GYD)).

Gweithdrefn

Negyddol

Materion technegol: craffu

Nodir pedwar pwynt i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1.  Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.

Mae erthygl 6(a) o'r Gorchymyn hwn yn diwygio erthygl 21(1) o Orchymyn 2005 i gyfeirio at erthygl 18(3) o'r un Gorchymyn. Fodd bynnag, dim ond mewn perthynas â Lloegr a'r Alban y mae erthygl 18(3) o Orchymyn 2005 yn gymwys, ac felly mae'n aneglur pam y byddai erthygl 21(1) o Orchymyn 2005 yn cyfeirio at erthygl 18(3) o'r un Gorchymyn mewn perthynas â Chymru.

2.  Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.

Mae erthygl 7(b) o'r Gorchymyn hwn yn mewnosod paragraff (1B) newydd yn erthygl 40 o Orchymyn 2005 mewn perthynas â Chymru. Fodd bynnag, yna mae'n cymhwyso'r paragraff (1B) newydd mewn perthynas â Lloegr a'r Alban, gan ddisodli'r paragraff (1B) cyfredol sy'n gymwys iddynt. Er nad yw'n ymddangos bod hyn yn cael effaith gyfreithiol andwyol, gan fod yr offeryn yn gyfyngedig o ran cymhwyso i Gymru, ymddengys nad yw'r paragraff yn ymarferol.

3.  Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.

Mae erthygl 15(b) o'r Gorchymyn hwn yn disodli geiriad yn Rhan A o Atodlen 4 i Orchymyn 2005 sy'n ymwneud ag eitem 10A, gan ddileu cyfeiriad at Benderfyniad (UE) 2015/2416. Fodd bynnag, mae erthygl 15(c) o'r Gorchymyn hwn wedyn yn disodli eitem 10A yn Rhan A o Atodlen 4 i Orchymyn 2005 yn ei chyfanrwydd, ond yn gadael y cyfeiriad at Benderfyniad (UE) 2015/2416. Felly, mae erthyglau 15(b) ac (c) o'r Gorchymyn hwn yn anghyson.

4.  Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.

Mae erthygl 20(b) o'r Gorchymyn hwn yn disodli geiriad paragraff 3(a)(ii) yn Rhan B o Atodlen 6 i Orchymyn 2005. Fodd bynnag, ymddengys fod yr un geiriad eisoes mewn grym mewn perthynas â Chymru. Er nad yw hyn yn achosi effaith gyfreithiol andwyol, ymddengys nad oes angen cynnwys erthygl 20(b).

Rhinweddau: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Ar ôl i'r DU ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, bydd yr offeryn hwn yn rhan o gyfraith yr UE a ddargedwir. 

Ymateb y Llywodraeth

Mae angen ymateb gan y Llywodraeth.

Trafodaeth y Pwyllgor

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn yn ei gyfarfod ar 25 Mawrth 2019 ac mae'n cyflwyno adroddiad i'r Cynulliad yn unol â'r pwyntiau technegol uchod.